Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

29 Gorffennaf 2014

 

Annwyl Ffred

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 16 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil hwn.   Ar hyn o bryd, rydym wedi penderfynu peidio â gofyn i'r Gweinidog ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ond rydym wedi ysgrifennu ato ynghylch nifer o bwyntiau.  Atodaf gopi o'r llythyr hwn er gwybodaeth.

 

At hynny, mae nifer o feysydd yn y Bil efallai yr hoffai eich Pwyllgor eu trafod â rhanddeiliaid y sector cyhoeddus, sef:

 

Costau i gyrff cyhoeddus penodol

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y disgwylir i'r costau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru o fodloni gofynion y Bil gael eu talu gan ddefnyddio'r adnoddau presennol ar gyfer pennu amcanion corfforaethol ac adrodd arnynt. Mae'r Memorandwm hefyd yn egluro bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil i sefydlu'r costau llinell sylfaen ar gyfer pennu amcanion strategol o fewn sefydliadau. Mae'r Memorandwm yn nodi y bydd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gostau cynyddol o tua £537,000 dros bum mlynedd gyntaf y Bil ar gyfer mynd i gyfarfodydd, cyhoeddi asesiadau llesiant a threfniadau craffu ychwanegol. Byddai'n ddefnyddiol dilysu'r ffigurau hyn gyda'r cyrff cyhoeddus penodol i weld a ydynt o'r farn eu bod yn realistig ac a oes angen iddynt ailflaenoriaethu i ffwrdd o adnoddau'r rheng flaen.

 

Yn gywir,

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd